Manon Steffan Ros yw enillydd Gwobr Tir Na n-Og yn y categori uwchradd eleni, a hynny am lyfr pêl-droed yn hytrach na Llyfr Glas Nebo.

Fe benderfynodd y beirniaid i wobrwyo Fi a Joe Allen, sy’n dilyn taith bachgen o Fangor yn yr Ewros yn 2016, er gwaethaf y ffaith bod y gyfrol a enillodd y Fedal Ryddiaith i’r awdures yn yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd, yn yr un categori.

Yn ôl Bethan Mair, Cadeirydd y Panel Beirniaid, “os ydych chi’n mwynhau unrhyw gyfrol arall gan Manon, darllenwch Fi a Joe Allen – boed yn blentyn, arddegyn neu oedolyn – a phenderfynwch drosoch eich hun.”

Categori cynradd

Yn cipio’r wobr yn y categori cynradd mae’r gyfrol Cymru ar y Map, llyfr atlas darluniadol gan yr awdur Elin Meek o Gaerfyrddin a’r arlunydd Valériane Leblond o Langwyryfon.

“Dyma lyfr gwirioneddol wreiddiol, arloesol a rhagorol, a ddyluniwyd yn fendigedig, sy’n cyfuno cynifer o agweddau ar iaith, hanes, daearyddiaeth, diwylliant, treftadaeth a chelf Cymru, nid yn unig ar gyfer yr oedran cynradd, ond i bawb,” meddai Bethan Mair.

Yn gynharach y mis hwn, fe gyhoeddwyd mai enillydd y wobr am y llyfr Saesneg gorau i blant yw Catherine Fisher, gyda’r nofel The Clockwork Crow.