Mae rali i hawlio cyfiawnder i ddarlledu Cymraeg wedi ei chynnal y tu allan i stiwdios y BBC yn Wrecsam.

Daeth tua 40 o ymgyrchwyr ynghyd yn y rali a drefnwyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, a’r alwad oedd i ddarlledu gael ei ddatganoli.

Ymysg y siaradwyr oedd Aelod Cynulliad y Democratiaid Rhyddfrydol Aled Roberts, a’r Aelod Seneddol Llafur, Ian Lucas, Eifion Lloyd Jones, a’r Cynghorydd Marc Jones.

Dywedodd Mr Roberts fod y cynlluniau ar gyfer S4C, gyda’r Sianel yn cael ei hariannu o 2013 ymlaen gan y BBC, yn fygythiad i’r iaith.

“Nid yw’n dderbyniol bod penderfyniadau ynghylch dyfodol ein hunig sianel Gymraeg yn cael eu cymryd yn Llundain, “ meddai.