Fe fydd awdurdodau lleol yn gorfod gosod eu targedau eu hunain er mwyn cynyddu nifer y disgyblion
sy’n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg, yn ôl cynlluniau gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r cynlluniau yn destun ymgynghoriad o heddiw (dydd Iau, Mai 30) ymlaen, a gobaith
Llywodraeth Cymru yw y bydd targedau’r awdurdodau lleol yn cyd-fynd â’u nod o sicrhau miliwn o
siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yw’r fframwaith statudol ar gyfer cynllunio addysg
cyfrwng Cymraeg leol, a daw’r newidiadau yn dilyn adolygiad o’r drefn bresennol.

O ran y cynigion, fe fydd y Cynlluniau hefyd yn cynyddu o gylch tair blynedd i gylch deng mlynedd.

Ehangu addysg Gymraeg

Mae fersiwn drafft y cwricwlwm addysg newydd, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis
Ebrill, yn bwriadu dod â Chymraeg ail iaith i ben a dysgu’r Gymraeg drwy ‘un continwwm’.

“Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru yn unigryw, ond mae gan bob un ohonyn nhw rôl yr un mor
bwysig o ran ehangu’r ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg ac rydyn ni wedi ymrwymo i gydweithio
gydag awdurdodau lleol i ddatblygu eu darpariaeth,” meddai’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams.

“Mae’r newidiadau hyn yn bwysig os ydym am wireddu gweledigaeth ein cwricwlwm newydd, sef
sicrhau bod pob dysgwr yn ddwyieithog o leiaf wrth adael yr ysgol.”