Mae’r Urdd yn estyn llaw i eglwys dros Fôr Iwerydd yn yr Unol Daleithiau eleni.

Ar Fedi 15, 1963, lladdwyd pedwar plentyn mewn ymosodiad hiliol ar Eglwys y Bedyddwyr yn ninas Birmingham, Alabama, gan aelodau’r Ku Klux Klan.

Cafodd y byd i gyd ei ysgwyd gan y newyddion ond pan gyrrhaeddodd hi’r artist gwydr o Gymru, John Petts, fe aeth ati i ddylunio ffenestr wydr oedd yn portreadu Iesu Grist fel dyn du yn rhodd i’r eglwys.

Yn ogystal, fe lansiodd golygydd y Western Mail ymgyrch i godi arian ar gyfer y ffenestr, ac fe gasglwyd £900.

“Ffenest Cymru”

Erbyn 1964 roedd y ffenestr wedi cael ei gosod yno ac fe elwid hi’n ‘Ffenest Cymru’ gan bobol Alabama.

Dros ganrif yn ddiweddarach mae’r Eglwys yn ffynnu ac mae’r Urdd yn estyn llaw unwaith eto.

Bu Martin Luther King Jr yn bregethwr cyson yno ac roedd Americanwyr Affricanaidd yn cyfarfod yno i gynllunio protestiadau yn erbyn yr hiliaeth sefydliadol oedd yn Unol Daleithiau trwy gydol y 1960au.

Thema Neges Heddwch ac Ewyllys Da’r Urdd yn 1964, chwe mis ar ôl yr ymosodiad oedd: “A gawn ni, ieuenctid bob gwlad, wneud ymdrech diffuant i adnabod ein cyd-ddynion, i ddileu rhagfarnau lliw, a chred, a chenedl, ac i  ymgyrraedd at y nod o heddwch byd?”

Dyma neges gan Pastor Price o’r Eglwys: