Mae’r Urdd wedi cyhoeddi heddiw (dydd Mercher, Mai 29) mai Machynlleth fydd cartref Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 2022.

Fe fydd hi’n flwyddyn fawr i’r Urdd fydd yn dathlu canrif ers ei sefydlu gan Syr Ifan ab Owen Edwards yn 1922.

“Y bwriad yw cynnal Eisteddfod yr Urdd 2022 yn Sir Maldwyn,” meddai Dyfrig Davies, Cadeirydd Urdd Gobaith Cymru.

“Dyna i chi’r newyddion diweddaraf ar le fydd yr Eisteddfod.”

Bydd cyfarfod cyhoeddus yng Nglantwymyn yn cael ei chynnal ar Fehefin 19 i gadarnhau’r penderfyniad.