Mae’r Urdd “yn chwarae rhan bwysig oherwydd ei fod yn rhoi cyfle arall i’n pobol ifanc,” meddai is-reolwr Cymru, Osian Roberts.

Dywed hyn bore heddiw (Dydd Mercher, Mai 29) wrth i’r Urdd a Chymdeithas Bêl-droed Cymru gyhoeddi twrnamaint pêl-droed uwchradd am y tro cyntaf erioed.

“Mae plant yn cael eu hyfforddi, yn chwarae mewn twrnameintiau ac mewn cystadlaethau ac yn y blaen,” meddai wrth golwg360 yn Eisteddfod yr Urdd.

“Dan ni wedi gweld rhai o’n chwaraewyr cenedlaethol ni megis Aaron Ramsey wedi chwarae mewn twrnameintiau pêl-droed a chael eu hyfforddi trwy’r Urdd.”

“Magu hyder”

Mae arolwg i chwaraeon ysgol ddiweddar yn dangos bod gostyngiad yn nifer y bobol ifanc sy’n chwarae pêl-droed wrth fynd o ysgol gynradd i ysgol uwchradd.

Yn ôl Gary Lewis, Cyfarwyddwr Chwaraeon yr Urdd, maen nhw’n ymateb i’r arolwg “er mwyn ceisio annog parhad yn y gamp yn yr ysgol uwchradd”.

“Yn naturiol pan mae plant yn gadael yr ysgol gynradd ac wedi bod yn chwarae yn nhîm yr ysgol mae ‘na gymaint o chwaraewyr wedyn yn mynd i’r uwchradd ac ychydig iawn sydd yn cael mewn i dîm yr ysgol,” meddai Osian Roberts.

“Felly mae gwahanol gystadlaethau, gwahanol hyfforddiant, y gwahanol dwrnameintiau yma yn yr Hydref yn hollbwysig yn rhoi cyfleoedd ac yn magu hyder yn ein pobol ifanc ni.

“Wrth wrando ar hynny, mae’r twrnamaint yn mynd i fod yn bwysig i roi cyfleodd i’n bechgyn ni ac yn enwedig i’n genethod ni.”

Chwarae’n lleol

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn ymdrochi talent ifanc Cymru yn eu system pan maen nhw’n 11 oed.

“Yn 11 a 12 ‘da ni’n dechrau targedu’r chwaraewyr… rydan ni’n coelio yn yr oedran cynradd,” meddai Osian Roberts wedyn.

“Mae’n bwysig bod ein plant ni’n mwynhau pêl-droed – yn chwarae’n lleol, gyda’u ffrindiau, yn magu hyder ac yn cymryd rhan.”