Mae’r DJ sy’n Llywydd y Dydd yn Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a’r Fro heddiw (dydd Mawrth, Mai 28) yn dweud fod y mudiad ieuenctid wedi bod yn rhan fawr o’i blentyndod yn y brifddinas.

I Huw Stephens, roedd yn ffordd o ddod â phawb at ei gilydd, ac yn rhoi cyfleodd i bawb wneud pethau arbennig.

“Roedd mynd i Storey Arms, Ynys Enlli, ac wrth gwrs Glan-Llyn a Llangrannog yn un o’r pethau gorau am fod yn yr ysgol yng Nghymru,” meddai wrth golwg360.

Yn dilyn ei ddyddiau coch, gwyn a gwyrdd, fe fentrodd i Lundain i ymuno a BBC Radio 1 yn 17 oed ac ers hynny mae wedi darlledu o wyliau cerddorol enfawr fel Glastonbury, gŵyl South by South West yn Tecsas, ac mae’n cyfrannu i raglenni BBC Radio 6, BBC Radio 2, a Radio 4.

Electronica, bandiau weird, a gwerin

“Mae’r Urdd yn gwneud gwaith pwysig wrth hyrwyddo’r Gymraeg wrth gwrs, ac mae hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg yn rhan o hynny,” meddai Huw Stephens.

“Mae’n dda gweld llwyfan y maes yn fwy eleni, mae ‘na lwyfan ychwanegol – llwyfan y Lanfa, ac wrth gwrs mae’r Eisteddfod am ddim felly bydd mwy o bobol yn clywed bandiau sy’n canu yn y Gymraeg.

“Ond dim jest bandiau yw e – mae’r sin electronica, y sin band weird, a’r sin werin i gyd yn gryf ac yn rhan o’n diwylliant ni.”

DJio

Yn ôl Huw Sephens byddai gweld cystadleuaeth DJio yn Eisteddfod yr Urdd yn rhywbeth da.

“Byse gweld DJio yn cŵl,” meddai. “Pam ddim? Mae dawnsio disgo yn boblogaidd, mae DJ’io yn grefft, felly falle ei fod yn syniad da.

“Ond ar y cyfan, mae’r Urdd yn barod yn dangos Cymru a’r Gymraeg I blant “mewn ffordd arbennig… Byddai Cymru yn lle llawer tlotach heb yr Urdd.”