Mae trefnwyr gŵyl Jazz Sipsiwn ym Môn wedi cyhoeddi eu bod nhw’n rhoi’r gorau iddi.

Mae Gŵyl March Manouche wedi cael ei chynnal yn ardal Porthaethwy yn flynyddol ers 2015.

Roedd yn digwydd dros gyfnod o benwythnos ym mis Mawrth, ac yn cynnwys cyngherddau a gweithdai gan chwaraewyr Jazz Sipsiwn o bedwar ban byd.

Cafodd yr ŵyl ei chynnal eleni rhwng Mawrth 22 a 24.

“Gyda chalon drom rydan ni wedi cymryd y penderfyniad anodd o ddod â Gŵyl March Manouche i ben,” meddai’r trefnwyr mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol.

“Hoffem gymryd y cyfle hwn i ddweud diolch i bawb – i’n holl helpwyr a’n staff ac i gefnogwyr ffyddlon yr ŵyl…

“Mae wedi bod yn rhywbeth pleserus i’w wneud, ac rydyn ni’n browd iawn o’r hyn rydyn ni wedi ei gyflawni yn ystod y pum mlynedd diwethaf.”