Mae angen mwy o ffilmiau ffantasi yn y Gymraeg, yn ôl yr actor Iwan Rheon – un o sêr y gyfres boblogaidd Game of Thrones.

Y Cymro Cymraeg o Gaerfyrddin – a gafodd ei fagu yng Nghaerdydd – oedd Llywydd y Dydd yn Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a’r Fro heddiw (dydd Llun, Mai 27).

Roedd yn chwarae rhan y dihiryn, Ramsay Snow/Bolton, yn y gyfres ffantasi boblogaidd ar HBO, a gafodd ei hysbrydoli gan gyfres o lyfrau gan George RR Martin, o’r enw A Song of Ice and Fire.

Yn ôl Iwan Rheon, mae poblogrwydd Game of Thrones wedi ehangu’r farchnad ar gyfer ffilmiau ffantasi, ac mae’n “hen bryd” gwneud ffilmiau tebyg sy’n seiliedig ar chwedlau Cymraeg.

“Gyda lot o bethau fel y Mabinogi a phethau fel’na, dw i’n meddwl ei bod hi’n hen bryd gwneud ffilm Gymraeg am y Mabinogi,” meddai cyn-ddisgybl Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf wrth golwg360.

“Mae [Game of Thrones] wedi gwneud lot o bobol falle fase ddim wedi bod â lot o ddiddordeb [mewn ffantasi] i fod yn rhan o’r peth.”

Actorion eraill o Gymru

Roedd yna “gymuned neis” o actorion o bedwar ban y byd yn rhan o gast Game of Thrones, meddai Iwan Rheon.

Roedd yna Gymry eraill ymhlith yr actorion hefyd, gan gynnwys y diweddar Margaret John o Abertawe, Jonathan Pryce o Sir y Fflint ac Ian Whyte o Fangor.

Ac mae Iwan Rheon yn cofio cymdeithasu adeg y ffilmio gydag Owen Teale o Abertawe, a oedd yn portreadu dihiryn arall, sef Alliser Thorne.

“Fe wnes i ddim cael golygfeydd gyda nhw [yr actorion Cymraeg], ond mi ro’n i’n cael cwpwl o beints gydag Owen Teale a chanu cwpwl o ganeuon Cymraeg yn y gwesty – a oedd yn hwyl,” meddai.

Y diweddglo dadleuol

Wrth roi ei farn ar ddiweddglo dadleuol y gyfres, a gafodd ei darlledu am y tro cyntaf yr wythnos ddiwethaf (dydd Llun, Mai 20), dywed Iwan Rheon ei bod hi’n “amhosib i blesio pawb”.

“Mae’n anodd plesio pawb, ond maen nhw wedi gwneud job dda, dw i’n meddwl,” meddai.

“Mae’n anodd gorffen rhywbeth fel’na achos mae cymaint o ddisgwyliadau.”

Dyma glip fideo o Iwan Rheon yn siarad â golwg360