Mae Urdd Gobaith Cymru yn lansio cynllun Prentisiaethau Allanol eleni sy’n rhoi arian tuag at alluogi cwmnïau a sefydliadau i roi hyfforddiant cyfrwng Cymraeg i’w staff.

Fel rhan o’r prosiect ‘Cymru a’r Byd’ mae’r Urdd wedi sicrhau cyfle i aelod o staff a phrentis chwaraeon ymweld ag Awstralia y flwyddyn nesaf.

Ym mis Ionawr 2020, a bob blwyddyn o hynny ymlaen, bydd un person yn rhedeg sesiynau’r Ysgol Haf Gymraeg – Grŵp Chwarae Cymraeg Sydney.

Yn ôl ystadegau cyfrifiad 2016, mae 1,689 o siaradwyr Cymraeg yn Sydney, sy’n gynnydd o 16% ers 2011.

Bydd cyfle i blant Cymraeg Sydney gymryd rhan mewn sesiynau chwaraeon a chelfyddydol gan roi cyfle i blant ddefnyddio’r Gymraeg mewn awyrgylch bywiog.

 “Hwyl trwy gyfrwng y Gymraeg”

“Mae rhieni’r Grŵp Chwarae yn hynod gyffrous am ddatblygiad y bartneriaeth hon gyda’r Urdd,” meddai Gwenfair Griffith – rhiant i blant sy’n mynychu Grŵp Chwarae Sydney.

“Mae cael y cyfle i gymdeithasu, a chael hwyl drwy gyfrwng y Gymraeg mor bwysig i gynnal diddordeb y plant yn yr iaith – yn ogystal â’r cyfle i ddysgu a darllen ac ysgrifennu’r iaith.”

Yn ôl Kat Colling, Rheolwr Marchnata ‘Cymru a’r Byd’ maen nhw’n “edrych ymlaen at adeiladu partneriaeth gyda’r Urdd ymhellach.”

“Rydym yn falch o fod yn ffurfio cysylltiadau gyda’r Urdd ac i fod mewn sefyllfa i gefnogi’r iaith Gymraeg ac ieuenctid yn y dispora Gymreig; dau achos sy’n agos at galon ein sefydliad.”