Mae mwy na 1,000 o bobol wedi llofnodi deiseb sydd wedi’i sefydlu yn sgil ymateb Cyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr i arwydd ‘Cofiwch Dryweryn’ ar wal siop yn y dref.

Ac mae Huw David, arweinydd y Cyngor, yn dweud wrth golwg360 y bydd ymateb swyddogol yn cael ei gyhoeddi “ddechrau’r wythnos, efallai ar ddydd Mawrth”.

Cafodd yr arwydd ei baentio ar wal siop losin Ella Riley mewn undod â’r ymgyrch sydd wedi gweld arwyddion tebyg yn cael eu paentio ledled Cymru ers i’r wal wreiddiol yn Llanrhystud gael ei difrodi.

Mae landlord oedrannus y siop wedi derbyn llythyr gan y Cyngor Sir yn bygwth dwyn achos yn ei erbyn, am eu bod yn ystyried yr arwydd yn “hysbyseb”, ac nad oes ganddo ganiatâd.

Freya Bletsloe, sy’n rhedeg y siop ac sy’n gynghorydd lleol, sydd wedi sefydlu’r ddeiseb, sy’n cyhuddo’r cyngor o fod yn “wrth-Gymraeg” am fod y llythyr wedi cael ei anfon yn uniaith Saesneg.

Mae’n dweud bod ymateb y Cyngor yn “gwbl annerbyniol i dreftadaeth ddiwylliannol a hanes y wlad hon”.

Dim ymateb gan y Cyngor

Yn ôl Freya Bletsloe, dydy’r Cyngor Sir ddim yn fodlon trafod y sefyllfa.

Mae’n dweud iddi geisio cysylltu â phrif weithredwr ac arweinydd y cyngor, pennaeth adran gynllunio’r cyngor, rheolwr adrannol ac arweinydd tîm.

Ond hyd yn hyn, maen nhw i gyd wedi gwrthod cyfathrebu, a doedd neb ar gael i drafod wyneb-yn-wyneb, meddai.

“Rydym yn galw ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i ddileu’r bygythiad o achos llys a dirwy yn y llythyr, ac rydym yn gofyn iddyn nhw ysgrifennu at landlord yr eiddo i ymddiheuro’n llawn am yr aflonyddwch a’r niwed maen nhw wedi’i achosi iddo yn sgil y mater, ac i ymddiheuro’n gyhoeddus i bobol Cymru am ddiystyru ein hiaith, ein hanes a’n trefdaeth,” meddai’r ddeiseb.

“Rydym hefyd am geisio sicrwydd gan Arweinydd y Cyngor a’r Prif Weithredwr na fydd y sefyllfa yma’n digwydd eto.”

Dywedodd Huw David, arweinydd y Cyngor Sir, wrth golwg360 na fyddan nhw’n ymateb “cyn dechrau’r wythnos, ar ddydd Mawrth efallai”.