Mae Heddlu’r Gogledd yn dweud eu bod yn gofidio am ddyn 78 oed sydd ar goll o ardal Pen-y-ffordd ger yr Wyddgrug.

Does neb wedi gweld Colin Purton ers bore dydd Iau (Mai 23), pan oedd yn teithio ar fws i Gaer.

Mae’n cael ei ddisgrifio fel dyn 5’10” o gorffolaeth denau, a chanddo wallt gwyn byr.

Pan aeth ar goll, roedd yn gwisgo cap fflat llwyd, siaced goch ac roedd yn cario ffon gerdded.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth amdano gysylltu â’r heddlu ar 101.