Mae Prifysgol Aberystwyth wedi penodi’r cwmni a fydd yn gyfrifol am adnewyddu Neuadd Pantycelyn.

Y bwriad yw ail-agor y neuadd breswyl Gymraeg ym mis Medi 2020 ond yn y cyfamser, bydd cwmni adeiladu Morgan Sindall yn trawsnewid y lle yn “llety cyfoes en-suite o’r radd flaenaf” ar gyfer 200 o fyfyrwyr.

Bydd yr adeilad hefyd yn darparu swyddfeydd i Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth, ffreutur a gofod cymdeithasol ar gyfer myfyrwyr, staff a’r gymuned leol.

Bydd y gwaith adnewyddu, a fydd yn cychwyn ar Fehefin 3, yn costio £16.5m. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu £5m tuag at y gost.

“Carreg filltir”

Yn ôl Gwerfyl Pierce Jones, Cadeirydd Bwrdd Prosiect Pantycelyn, dyma’r “cam mwyaf arwyddocaol eto” yn yr ymdrech i ail-agor drysau Pantycelyn.

Mae Anna Wyn Jones, Llywydd UMCA, hefyd wedi croesawu’r cyhoeddiad y bydd y gwaith yn dechrau cyn bo hir.

“Mae’r cynlluniau ar gyfer Neuadd Pantycelyn yn rhai cyffrous iawn ac rydan ni’n edrych ymlaen yn fawr at weld y gwaith adeiladu’n dechrau a’r myfyrwyr yn symud i mewn ym mis Medi 2020.

“Mi fydd yn braf gweld Pantycelyn unwaith eto yn galon i weithgareddau UMCA, Y Geltaidd, Aelod Pantycelyn a chymuned ddeinamig myfyrwyr Cymraeg Prifysgol Aberystwyth.”