Mae’r heddlu wedi holi 25 o bobol yn oriau mân y bore wrth iddyn nhw barhau i ymchwilio i lofruddiaeth cyn-ddarlithydd 74 oed.

Fe gafodd Gerald Corrigan ei saethu gyda bollt o fwa croes tu allan i’w gartref mewn ardal anghysbell o Gaergybi am tua 12.35 y bore ar Ebrill 19 wrth iddo addasu safle ei loeren.

Bu farw o’i anafiadau ar Fai 11.

Rhwng 10 o’r gloch neithiwr a phedwar y bore yma, roedd yr heddlu yn cwestiynu gyrwyr cerbydau, seiclwyr a cherddwyr yn teithio ger ei gartref.

Bydd yr heddlu yn cynnal arolwg o’r wybodaeth a gafwyd.

“Mae yn bwysig ein bod yn dod o hyd i dystion a phobol allai fod â gwybodaeth fydd yn ein helpu,” meddai’r Ditectif Brif Arolygydd Brian Kearney.

Mae teulu Gerald Corrigan wedi dweud nad ydyn nhw yn gallu meddwl am unrhyw un a fyddai am ei frifo.

Bu’r tad 74 oed yn ddarlithydd yn Lloegr cyn ymddeol i Fôn tros ugain mlynedd yn ôl.