Mae dyn o’r Alban wedi cael ei ganfod yn euog o fewnforio cŵn drwy Gaergybi, Ynys Môn, yn anghyfreithlon.

Cafodd Jamie Rose Colquhoun o Dundee ei ddal gan Heddlu Gogledd Cymru ym mhorthladd y dref gyda saith o gŵn bach.

Yn dilyn gwrandawiad yn Llys Ynadon Caernarfon yr wythnos hon, cafodd ddirwy o £4,000 gyda chostau o £789.

Bu Jamie Rose Colquhoun ar brawf am droseddau’n ymwneud â llesiant anifeiliaid a chynhaliwyd ymchwiliad dilynol gan swyddogion iechyd anifeiliaid Cyngor Sir Ynys Môn.

“Bu Jamie Rose Colquhoun anwybyddu’r gyfraith mewn perthynas â rheoliadau cludo anifeiliaid, rheoliadau sy’n sicrhau llesiant anifeiliaid pan fyddant yn cael eu cludo,” dywed llefarydd ar ran Cyngor Sir Ynys Môn.

“Rhaid i gludwyr masnachol anifeiliaid gadw at y gyfraith a chydymffurfio â rheolau mewnforio a chludo.”