Nid yw’r oedolyn arferol yn dechrau poeni am ddyled hyd nes iddo gyrraedd £5,646, yn ôl arolwg diweddar o 2,000 o bobol.

Fe gafodd yr arolwg ei gomisiynu gan gwmni ymgynghori Salary Finance, ac yn ôl yr atebion mae mwy na phedwar ym mhob 10 yng Nghymru yn cyfaddef bod angen iddyn nhw fod mewn £10,000 o ddyled cyn dechrau poeni.

Hefyd mae dros hanner y Cymry yn dweud bod dyled yn rhywbeth “mor normal” nes nad ydyn nhw yn poeni amdano – ac mae gan dros draean gerdyn credyd, benthyciad neu orddrafft.

Gan eithrio benthyciadau myfyrwyr a morgeisi, ar gyfartaledd, cyfanswm dyled yr unigolyn arferol yng Nghymru yw £7,573.

Mae bron i 20% yn dueddol o fynd mewn i’w gorddrafft yn ystod mis arferol, a’r gorddrafft yn £216.

Nid yw’r darganfyddiadau yma’n synnu Asesh Sarkar, Prif Weithredwr Salary Finance sy’n honni ei fod “yn normal i bobol fod mewn rhyw fath o ddyled heddiw”.

“Fodd bynnag, mae’r ystadegau hyn yn dweud llawer gan nad yw pobl yn mynd i’r afael â’u dyled nes iddi gyrraedd miloedd o bunnoedd, ac erbyn hynny yn achosi iddyn nhw boeni bod eu dyled yn anodd ei rheoli.”