Mae adroddiad gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad yn dangos bod “pryderon difrifol” am berfformiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Yn ôl yr adroddiad, mae’r bwrdd yn methu cwrdd â thargedau amser, wedi gweld diffyg cynnydd o ran gwella gwasanaethau iechyd meddwl, ac wedi gorwario hyd at £41.3m.

Mae’r adroddiad hefyd yn pryderu’n fawr am wasanaethau’r gogledd gan nodi fod angen ei thrawsnewid ar frys.

Mae’r adroddiad yn cael ei gyhoeddi heddiw (Dydd Gwener, Mai 24) ac yn dangos nad yw’r gwasanaeth wedi gwella cystal â’r disgwyl ers cael ei roi mewn mesurau arbennig yn 2015.

Daw’r Pwyllgor i’r casgliad nad yw ymyrraeth Llywodraeth Cymru wedi cael llawer o effaith ar y gwasanaeth yn ymarferol.

“Annerbyniol o araf”

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yw’r gwaethaf yng Nghymru o ran amseroedd aros yn ôl y pwyllgor.

Mae hyn yn cynnwys yng nghyd-destun gofal dewisol, gofal heb ei drefnu a chleifion sy’n cael eu cyfeirio gan feddyg teulu.

“Mae’r gwaith o fynd i’r afael â phroblemau yn annerbyniol o araf,” meddai Nick Ramsay AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

“Er bod llawer o newidiadau wedi bod i’r Bwrdd a bod cynlluniau pellach ar y gweill, mae’r sefyllfa yn parhau’n destun pryder mawr i ni. Mae perygl difrifol y gall mesurau arbennig gael ei dderbyn fel sefyllfa gwbl normal.

“Mae’n ymddangos bod y diffyg ariannol yn gwaethygu, nid yw’n ymddangos bod amseroedd aros yn gwella ac, yn dilyn methiannau hanesyddol a diffygion ar hyn o bryd ym maes gofal iechyd meddwl.”

“Angen trawsnewid gogledd Cymru ar frys”

Fel rhan o’r ymchwil bu’r Pwyllgor yn gwrando ar bryderon teuluoedd a gafodd eu heffeithio gan broblemau ward Tawel Fan gynt yn Ysbyty Glan Clwyd.

Mae’n nodi fod gwasanaeth iechyd meddwl y gogledd yn rhy araf wrth weithredu’r argymhellion ar gyfer gwella’r gwasanaeth.

“Mae angen trawsnewid gwasanaethau ar draws gogledd Cymru ar frys, er mwyn darparu gwasanaethau sy’n gynaliadwy yn ariannol ac sy’n darparu gwell gofal i gleifion,” meddai Nick Ramsay.

“Fel Pwyllgor, byddwn yn cadw llygad barcud ar y datblygiadau yn y Bwrdd Iechyd, ond mae angen iddyn nhw weithio ar frys nawr er mwyn cyflwyno’r newidiadau sydd wir eu hangen, er lles pobl gogledd Cymru a staff gweithgar y Gwasanaeth Iechyd (GIG).”