Mae ymgyrchwyr amgylcheddol wedi mynegi pryder yn sgil adroddiadau bod cwmni o’r Eidal yn bwriadu chwilio am olew a nwy ym Mae Ceredigion.

Mae golwg360 yn deall bod y cwmni ynni, Eni UK, yn bwriadu cynnal arolwg seismig mewn rhan o Fôr Iwerddon, a fydd hefyd yn cynnwys rhan o Fae Ceredigion sy’n cael ei ddiffinio’n Ardal Gadwraeth Arbennig.

Yn ôl adroddiadau, fe allai’r arolwg gael ei gynnal mor gynnar â dechrau mis Mehefin, gan barhau am rai wythnosau.

Poeni am “ardaloedd sensitif”

Mae’r corff amgylcheddol, Cadwraeth Morfilod a Dolffiniaid, ymhlith y rhai sydd wedi beirniadu’r bwriad i gynnal arolwg, gan godi pryderon ynghylch yr effaith y bydd yn ei gael ar “ardaloedd sensitif”.

“Mae morfilod a dolffiniaid yn byw mewn byd o ddŵr a synau. Mae lefelau uchel o synau o dan ddŵr sy’n dod o weithgareddau dynol, fel cloddio, chwilota am olew neu nwy ac ymarferiadau milwrol, yn gallu cael effaith fawr arnyn nhw,” meddai llefarydd.

“Maen amharu ar eu cyfathrebu, eu gyrru nhw i ffwrdd o ardaloedd pwysig, ac hyd yn oed yn achosi marwolaethau.”

“Pryderus iawn”

Mae Aelod Seneddol Ceredigion, Ben Lake, wedi dweud ei fod yn “bryderus iawn” ynghylch bwriad Eni UK.

Gan ystyried bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi datgan bod y ddaear yn wynebu argyfwng hinsawdd a bod Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol wedi ymrwymo i leihau allyriadau carbon, maen destun gofid mawr i mi fod y cwmni yma wedi cael caniatâd i gynnal yr arolwg o gwbl, heb sôn am gael ganiatâd i wneud hynny mewn ardal gadwraeth arbennig,” meddai.

Dwi wedi ysgrifennu at Weinidog BEIS y Llywodraeth i ddatgan fy mhryderon ac i annog yr Adran i ailystyried eu cefnogaeth ir cynllun hwn er lles yr amgylchedd morol lleol.

Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Prydain ac Eni UK am ymateb.