Mae “troseddwr toreithiog” o Fangor wedi cael ei ddedfrydu i 42 wythnos yn y carchar yn dilyn nifer o droseddau yn yr ardal leol.

Ymhlith y troseddau oedd dwyn oddi ar berchennog tafarn lleol ar ddau achlysur gwahanol o fewn chwe wythnos, a chicio iâr drwy’r awyr gan chwerthin.

Fe dderbyniodd Craig Lloyd, 31, ei ddedfryd yn Llys y Goron Caernarfon ddoe (dydd Mawrth, Mai 21).

“Rydym yn croesawu’r ddedfryd a roddwyd i Lloyd, troseddwr cyson a thoreithiog sy’n achosi niwed sylweddol yn ein cymuned yn barhaus,” meddai PC Elwyn Williams o Heddlu Gogledd Cymru.

“Rydym yn ddiolchgar i’r gymuned am eu cefnogaeth barhaus. Mae ein cymuned bellach yn lle diogelach gyda Lloyd yn y carchar.”