Mae yna bryder bod y system bresennol o dargedau deintyddol yn atal deintyddion rhag gweld cleifion sydd ag anghenion dwys, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad.

Mae’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn dweud bod angen “dechrau o’r newydd” gyda chontractau deintyddol yng Nghymru.

O dan y drefn bresennol, mae deintyddion yng Nghymru yn derbyn swm blynyddol am waith deintyddol, sy’n cael ei rannu’n ‘Unedau Gweithgarwch Deintyddol’.

Ond oherwydd bod y taliad yr un fath ni waeth faint o driniaethau tebyg y mae deintydd yn ei roi, mae’r pwyllgor yn pryderu nad oes unrhyw gymhelliad gan ddeintyddion i dderbyn cleifion ag anghenion dwys.

Ymhlith argymhellion y pwyllgor i Lywodraeth Cymru mae cael gwared ar y targedau presennol a chreu yn eu lle system “sy’n fwy priodol ac yn fwy hyblyg” i fonitro canlyniadau, ac a fydd yn canolbwyntio ar ofal ataliol ac ansawdd triniaeth.

‘Angen newid’

“Yr hyn sy’n amlwg i’r Pwyllgor hwn yw nad yw trefniadau presennol y Gwasanaeth Iechyd ar gyfer contractau deintyddion yn gweithio,” meddai’r Aelod Cynulliad Dai Lloyd, cadeirydd y pwyllgor.

“Nid oes fawr o synnwyr mewn talu’r un faint am bob cwrs o driniaeth, ni waeth faint o waith sydd ei angen ar y claf.

“Felly, mae’r Pwyllgor o’r farn ei bod hi’n hen bryd dirwyn y trefniadau presennol i ben a dod o hyd i ffordd newydd o sicrhau bod gan bawb yng Nghymru fynediad at wasanaethau deintyddol o safon.”