Mae pleidlais brotest yn yr etholiad Ewropeaidd i’r pleidiau sydd fwyaf o blaid Brexit yn mynd i fod yn niweidiol i’r diwydiant amaeth a chymunedau gwledig, yn ôl Undeb Amaethwyr Cymru (FUW).

Daw’r rhybudd gan lywydd yr undeb, Glyn Roberts, ar drothwy’r etholiad ddydd Iau yma (Mai 23) – “yr etholiad mwyaf anghyffredin mewn cof,” meddai.

Dywed Glyn Roberts ei fod yn deall “y rhwystredigaeth” sydd gan rai pobol tuag at Brexit, ond mae’n apelio arnyn nhw i ailfeddwl cyn bwrw pleidlais brotest.

Mae’n ychwanegu mai “grym dinistriol” fydd y Brexitwyr os ydyn nhw’n cael eu hethol i Senedd Ewrop.

‘Rhaid adeiladu pontydd’

“Fy mhryder i yw y bydd unigolion o’r fath yn anfon neges ledled Ewrop a’r byd bod gwledydd Prydain sy’n unrhyw beth ond aeddfed…,” meddai wedyn.

“Mae angen inni sicrhau bod yr aelodau ar gyfer Senedd Ewrop yr ydyn ni’n eu hethol yn wirioneddol gynrychioli buddiannau hirdymor Cymru a gwledydd Prydain, gan weithio â pharch, urddas a diplomyddiaeth.

“Mae’n rhaid inni adeiladu pontydd gyda swyddogion a gwledydd yr Undeb Ewropeaidd – y bobol y bydd yn rhaid i wledydd Prydain yn ystod y misoedd nesaf drafod cytundeb masnach ffafriol os yw’r marchnadoedd llewyrchus ar stepen ein drws am barhau’n agored.”