Bydd yr achos cyfreithiol cyntaf yng ngwledydd Prydain yn erbyn defnydd yr heddlu o dechnoleg adnabod wynebau yn cael ei gynnal heddiw (dydd Mercher, Mai 21).
Mae dyn o Gaerdydd wedi codi arian er mwyn herio Heddlu De Cymru tros honiadau eu bod nhw wedi defnyddio’r dechnoleg yn anghyfreithlon.
Mae disgwyl iddo ddadlau yn y Ganolfan Cyfiawnder Teulu yng Nghaerdydd yn ystod tri diwrnod o wrandawiad, bod y llu wedi torri cyfreithiau sy’n ymwneud â diogelu data a chydraddoldeb.
Technoleg adnabod wynebau
Mae technoleg adnabod wynebau yn mapio wynebau mewn torf o bobl ac yna’n eu cymharu â rhestr yr heddlu sy’n cynnwys lluniau o bobol sydd naill ai ar goll neu o ddiddordeb.
Mae’r heddlu yn dadlau bod technoleg o’r fath yn eu helpu i fynd i’r afael â throseddau, ond mae ymgyrchwyr ar y llaw arall yn credu ei bod yn mynd yn groes i hawliau sifil.
Fe ddefnyddiodd Heddlu De Cymru y dechnoleg am y tro cyntaf yn ystod gemau pêl-droed yng Nghaerdydd yn 2017.
Cwyno am gael ei sganio
Mae Ed Bridges yn honni bod yr heddlu wedi ei sganio o leiaf dwywaith yn ddiweddar – unwaith yn ystod protest heddychlon a’r tro arall pan oedd yn siopa Nadolig, meddai.
Yn ôl y grŵp ymgyrchu Liberty, sy’n cynrychioli Ed Bridges yn yr achos, mae Heddlu De Cymru wedi defnyddio’r dechnoleg mewn “tua 50 o achosion”.
Dyw’r llu ddim am wneud sylw ar y mater tan fod yr achos ar ben, ond mae gwybodaeth ar wefan a gafodd ei sefydlu ganddyn nhw yn nodi eu bod nhw’n ceisio sicrhau “cydbwysedd rhwng diogelwch a phreifatrwydd” wrth ddefnyddio’r dechnoleg.