Mae gwenynwr o Geredigion wedi mynegi ei bryder wedi i adroddiad ddatgelu bod sawl rhywogaeth o wenyn wedi, ac ar fin diflannu’n llwyr yng ngwledydd Prydain
Mae Wil Griffiths o ardal Comins Coch ger Aberystwyth wedi bod yn cadw gwenyn ers cyfnod o drigain mlynedd, a dywed fod yr argyfwng sy’n wynebu nifer helaeth o wenyn ar hyn o bryd yn “bryder mawr” iddo.
Daw ei sylwadau ar ôl i ymgyrchwyr amgylchedd – WWF a Buglife – gyhoeddi adroddiad yr wythnos hon (dydd Llun, Mai 20) sy’n nodi bod 17 o wahanol rywogaethau bellach ddim ar gael yn y gwyllt yng ngwledydd Prydain, tra bod yna bryder am 56 arall.
Mae’r adroddiad yn argymell nifer o wahanol gamau gweithredu er mwyn amddiffyn y gwenyn, gan gynnwys creu mwy o fannau gwyrdd o fewn ardaloedd dinesig.
Gwenyn mêl yn prinhau
Yn ôl Wil Griffiths, a fu’n cadw 80 o gychod gwenyn ar un adeg, mae wedi sylwi ar sawl rhywogaeth yn prinhau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond yr hyn sy’n achosi’r mwyaf o ofid iddo yw’r lleihad yn nifer gwenyn mêl.
“Fel arfer, pan fyddai’r wenynen mêl yn byw trwy’r gaeaf ymlaen i’r gwanwyn, fe fyddech chi’n disgwyl colledion o ryw 15% – dyna beth oedd yn digwydd yn y gorffennol,” meddai wrth golwg360.
“Ond erbyn y dyddiau hyn, rydych chi’n colli 30%.”
‘Ffermio modern yn fygythiad’
Mae’r gwenynwr yn nodi mai’r prif fygythiad i wenyn heddiw yw newid yn yr hinsawdd ac afiechydon.
Mae hefyd yn dweud bod dulliau ffermio modern yn fygythiad, wrth i flodau’r caeau gael eu difetha cyn iddyn nhw flodeuo.
“Mae’r math o amaethyddiaeth sy’n bod yn awr yn prinhau’r planhigion fyddai’n rhoi maethdar i’r gwenyn,” meddai Wil Griffiths.
“Yn y gorffennol, hela gwair oedd yr arferiad, ond erbyn heddi hela silwair sydd. Roedd y caeau yn arfer bod yn feillion gwyn i gyd, ond erbyn heddi ar gyfer silwair, maen nhw’n cael eu torri cyn bod y meillion wedi blodeuo.”