Mae disgwyl i’r Blaid Brexit gael buddugoliaeth fawr yn yr etholiad Ewropeaidd ddiwedd yr wythnos, tra bo’r Blaid Lafur a’r Ceidwadwyr yn wynebu “colledion hanesyddol”.

Dyna’r hyn sy’n cael ei ddarogan yn yr arolwg barn diweddaraf gan YouGov ar ran ITV Cymru a Phrifysgol Caerdydd, wedi i 1,000 o bobol gael eu holi rhwng Mai 16 a 20 ynghylch pa blaid y byddan nhw’n pleidleisio iddyn nhw ar Fai 23.

Mae’r ffigyrau yn dangos y Blaid Brexit ymhell ar y blaen, gyda 36% o’r bleidlais boblogaidd, tra bo’r Blaid Lafur wedi disgyn i’r drydydd safle gyda 15%, a hynny y tu ôl i Blaid Cymru (19%).

Yn ôl yr Athro Roger Awan-Scully, mae’r arolwg yn dangos bod yna “gryn dipyn” wedi newid yn y byd gwleidyddol mewn ychydig wythnosau.

Y ffigyrau

  • Plaid Brexit – 36% (+26)
  • Plaid Cymru – 19% (+4)
  • Llafur – 15% (-15)
  • Y Democratiaid Rhyddfrydol – 10% (+4)
  • Y Blaid Werdd – 8% (+5)
  • Y Ceidwadwyr – 7% (-9)
  • UKIP – 2% (-9)
  • Change UK – 2% (-6)
  • Eraill – 1% (dim newid)

O newid y ffigyrau hyn yn seddi, fe fydd y map etholiadol yng Nghymru – neu’r pedair sedd Gymreig yn Senedd Ewrop – fel a ganlyn:

  • Y Blaid Brexit – 2 sedd
  • Llafur – 1 sedd
  • Plaid Cymru – 1 sedd

Ergyd i Lafur Cymru

“Oni bai bod yr arolwg yn hollol anghywir, neu mae’r Blaid Lafur yn mynd i gael adfywiad yn ystod diwrnodau diwethaf yr ymgyrch ar gyfer yr etholiad Ewropeaidd, yna mae’r Blaid Lafur yn wynebu colli am yr eildro mewn can mlynedd,” meddai’r Athro Roger Awan-Scully o Ganolfan Llywodraethiant Cymru.

“Fe fydd prawf etholiadol cyntaf Mark Drakeford fel arweinydd y Blaid Lafur wedi methu. Dydyn ni ddim yn gwybod hyd yn hyd beth fydd y goblygiadau gwleidyddol, ond fe all y canlyniad hwn yn ei hunan fod yn un hanesyddol.”