Mae dyn mewn cyflwr difrifol, ond sefydlog, yn yr ysbyty yn dilyn ymosodiad yng Nghaerdydd yn ystod oriau mân y bore heddiw (dydd Llun, Mai 20).

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw toc cyn 1yb yn dilyn adroddiad bod dyn wedi cael ei drywanu yn Stryd Holmesdale, Grangetown.

Mae rhan o’r stryd ynghau wrth i ymchwiliad yr heddlu barhau.