Mae mwy na hanner (52%) merched ifanc Cymru wedi dioddef aflonyddu rhywiol neu sylw diangen yn gyhoeddus, yn ôl ymchwil newydd.

Mae arolwg a gafodd ei gynnal gan yr elusen Plan International UK, lle cafodd merched rhwng 14 a 21 oed eu holi, yn dangos bod 32% wedi cael eu haflonyddu ar lafar o leiaf unwaith y mis, tra bo 17% wedi cael eu cyffwrdd yn ddiangen bob mis.

Roedd 37% yn dweud eu bod nhw wedi cael y profiad o berson yn eu dilyn mewn lleoliad cyhoeddus.

Mae’r elusen yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r broblem ar lefel lleol, gan anfon “neges glir” i ddrwgweithredwyr nad yw ymddygiad o’r fath “yn iawn”.

Dywed y Llywodraeth fod atal aflonyddu ar y stryd eisoes yn rhan o’u strategaeth genedlaethol.

Diffyg rhannu profiadau

Yn ôl yr arolwg, mae 41% o ferched yng Nghymru, sydd wedi cael eu haflonyddu’n rhywiol, yn dweud nad ydyn nhw wedi rhannu eu profiadau ag eraill.

Mae hyn er gwaethaf y ffaith bod 90% ohonyn nhw’n teimlo eu bod nhw wedi cael eu heffeithio’n negyddol o ganlyniad i’r profiadau.

Mae un o gyfranwyr yr arolwg, Trin – merch 18 oed o Gaerdydd – wedi disgrifio sut y derbyniodd sylw diangen gan ddyn a’i dilynodd adref un tro.

“Pan oeddwn i’n 16 oed roeddwn i’n teithio adre ryw noson ar ôl bod yn y gwaith, ac fe wnaeth cwsmer ddechrau fy nilyn i,” meddai. “Fe gamodd i mewn i’r bws gyda fi a dechrau siarad â fi ynglŷn â faint yr oeddwn i’n rhy brydferth i beidio â chael cariad.

“Roedd yn ei 50au o leiaf oherwydd fe ddechreuodd siarad am ei wyrion. Roeddwn wedi cael fy nghau i mewn oherwydd roedd e’n eistedd ar fy mwys i, ac fe wnaeth i mi deimlo’n nerfus yr holl ffordd adre. Yn ffodus, fe adawodd y bws cyn i fi adael.”

“Angen gwneud mwy”

Yn ôl Tanya Barron, Prif Weithredwr Plan International UK, mae canfyddiadau’r arolwg yn “syfrdanol”.

“Mae’r arolwg hwn yn dangos faint o broblem yw aflonyddu merched, ac mae’n tanlinellu’r ffaith bod angen gwneud mwy ar lefel lleol,” meddai.

“Drwy wneud aflonyddu stryd yn rhan o’r strategaeth genedlaethol i atal trais yn erbyn merched yng Nghymru, fe fydd hyn yn anfon neges glir bod y math hwn o ymddygiad yn annerbyniol.

“Bydd hefyd yn sicrhau bod cynghorau lleol yn dechrau gweithio gyda’r heddlu i fynd i’r afael â’r broblem, gan greu newid go iawn i ferched.”

Llywodraeth Cymru – ‘rhaid newid agweddau’

Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, maen nhw’n ceisio atal trais yn erbyn merched drwy gynnig cymorth i ddioddefwyr ac atal y gamdriniaeth yn y lle cyntaf.

“Tan ein bod ni’n newid agweddau ac yn teimlo’n ddigon cryf i herio’r rhain pan ydyn ni’n dod ar eu traws, bydd y math o ymddygiad sy’n cael ei amlygu mewn aflonyddu stryd yn parhau.

“Dyna pam mae ein Strategaeth Genedlaethol yn cynnwys yr amcanion o godi ymwybyddiaeth, herio agweddau, addysgu plant a phobol ifanc ynglŷn â pherthynas iach, a chynnig cyfleoedd i droseddwyr newid eu hymddygiad.”