Mae Pwyllgor Gwaith Cyngor Ynys Môn wedi gwneud tro pedol dros eu penderfyniad i gau tair ysgol heddiw (Dydd Llun, Mai 20).

Roedd y Cyngor wedi cynnig cau ysgolion Bodffordd, Talwrn a Biwmares, oedd yn destun gwrthwynebiad cryf gan y cymunedau.

Dywed y Cynghorydd Carwyn Jones bod “rhaid i bawb symud ymlaen efo’i gilydd yn awr,” yn ystod y cyfarfod.

“Dyma gyfle llechen lan, heb densiwn. Nid brwydr ddylai hyn fod,” meddai.

“Sicrwydd i’r cymunedau”

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu’r penderfyniad gan y Pwyllgor Gwaith i ddiddymu’r penderfyniad.

Yn ôl Ffred Ffransis o’r mudiad: “Mae’r swyddogion a’r cynghorwyr wedi bod yn ddewr yn ymddiheuro’n agored oherwydd eu bod, yng ngeiriau’r Prif Weithredwr Dr Gwynne Jones, ‘am barchu’r cymunedau yr ydym yn cydweithio â nhw’.”

“Diolchwn eu bod wedi gwneud y peth iawn o ddiddymu’r penderfyniadau a rhoi sicrwydd i’r cymunedau y byddai pob ystyriaeth yn y dyfodol o dan egwyddor y Côd Trefniadaeth newydd sydd â rhagdyb o blaid ysgolion gwledig.”

“Gosod esiampl”

“Hoffem fel Cymdeithas ddiolch o galon i’r cymunedau hyn sydd wedi gosod esiampl i gymunedau gwledig Cymraeg ledled y wlad, ac yn enwedig esiampl i’w plant,” meddai Ffred Ffransis.

“Yn olaf, mae’n gwbl briodol i ni fel Cymdeithas ddiolch i’r Gweinidog Addysg Kirsty Williams gan fod ei pharodrwydd hi i ymchwilio o ddifri i gŵyn wedi anfon neges glir i awdurdodau lleol ledled Cymru.”