Mae criw o gerddorion a chantorion o ardal Llanrwst wedi dod at ei gilydd dan yr enw ‘Cam Gwag’ i recordio cân newydd i groesawu pawb i Lanrwst ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019.

Mae’r gân wedi ei chyfansoddi gan Steve (Mwg) Roberts a Myrddin ap Dafydd, a’r prif leisydd yw Esyllt Tudur.

Ymysg y cerddorion eraill mae Meredydd Morris (gitar flaen a mandolin), Gwyn (Maffia) Jones (drymiau), Ben Marshall (bas), Ger Fôn (ffidil), Elin Angharad (telyn) a’r clocswraig Hannah Rowlands.  Mae’r côr lleol, CoRwst a’r bardd Ifor ap Glyn hefyd yn ychwanegu eu lleisiau i’r trac.

Cyflwynodd nifer o blant ysgolion cynradd yr ardal syniadau ar gyfer y clawr, a’r dyluniad sydd wedi dod i’r brig yw’r un gan Cara Fôn, Blwyddyn 4 o Ysgol Bro Gwydir .

Bydd y gân ar gael i’w lawrlwytho a’i ffrydio yn ddigidol o Fehefin 7 ymlaen, ac mi fydd Cam Gwag a nifer o artistiaid eraill yn cynnal noson lansio yng Ngwesty’r Eryrod yn Llanrwst ar y noson honno. Bydd holl elw’r noson yn mynd tuag at Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019.

Mae modd gwrando ar y gân yn fan hyn:

 

https://soundcloud.com/golwg-360/cam-gwag-croeso-i-lanrwst