Mae Coed Cadw yn chwilio am y goeden fwyaf poblogaidd, un sy’n syfrdanol yn weledol, sydd â stori i’w hadrodd, ar gyfer cystadleuaeth Coeden y Flwyddyn 2019.

Mae’r gystadleuaeth yn ei chweched flwyddyn erbyn hyn a’r bwriad yw dathlu coed arbennig ledled y wlad. Hwyrach mai’r goeden yw breswylydd hynaf y pentref, hwyrach ei bod hi’n rhan fawr o gymeriad yr ardal, neu’n garreg filltir yn hanes y genedl.

Ac os ydi’r goeden yn edrych yn anhygoel o drawiadol, gorau yn y byd!

Fe all unrhyw unigolyn, grŵp neu sefydliad enwebu coeden a rhannu ei stori yn <http://www.woodlandtrust.org.uk/visiting-woods/coeden-y-flwyddyn-2019/> tan 19 Gorffennaf 2019. Wedyn, fe fydd panel o arbenigwyr ym mhob gwald yn llunio rhestr fer o goed, fydd yn wedyn yn cystadlu mewn pleidlais gyhoeddus.

Fe allai’r goeden fod yn dderwen fawreddog, gnotiog, a blannwyd yn ystod dyddiau Dafydd Ap Gwilym, sydd wedi goroesi trwy’r canrifoedd. Fe allai fod yn ffawydden nerthol a blannwyd gan blentyn mewn cae y tu ôl i’w tŷ. Beth bynnag fo’r rhywogaeth, beth bynnag fo’r stori, mae Coed Cadw yn awyddus i glywed beth sy’n ei gwneud hi’n wahanol o’r lleill.

Dod o hyd i goed “anhygoel”

“Mae Coeden y Flwyddyn wedi ein helpu i ddarganfod llawer o goed anhygoel – ond dim byd hyd yma a allai guro’r gorau yn y gystadleuaeth Ewropeaidd,” meddai Kaye Brennan, prif ymgyrchydd Coed Cadw.

“Rydym yn gwybod bod gennym rai o’r coed mwyaf anhygoel yn y byd – ond mae arnon ni angen cefnogaeth y cyhoedd i ddod o hyd iddyn nhw, a phleidleisio dros enillydd.

“Rydyn ni eisiau clywed eich straeon am y coed. Beth mae coed yn feddwl i chi? Pam eu bod nhw’n bwysig i chi? Beth yw’r goeden fwyaf adnabyddus, cariadus, yn eich dinas, tref neu bentref a pham?

“Gallwch hefyd rannu eich coed arbennig ar Twitter ac Instagram gan ddefnyddio’r hashnod #TreeOfTheYear.”

Enillydd y llynedd

Yr enillydd y llynedd oedd Derwen Pwllpriddog, sydd wedi sefyll ers canrifoedd wrth ochr lôn wledig ger Rhandirmwyn yn Sir Gaerfyrddin. Mae bôn y goeden yn mesur 8.4m o amgylch, felly, dyma gawr o goeden. Mae rhai wedi amcangyfrif ei fod yn 600-700 oed, tra bod haneswyr lleol yn credu iddi gael ei phlannu i goffáu Brwydr Bosworth.

Yn ôl y sôn, dyma le cuddio brenin; yr enw ar y dafarn leol yw’r Dderwen Frenhinol, wedi’r cyfan. Ceubren yw’r goeden hon, ac mae nifer o glipiau YouTube o fandiau a chorau yn canu ynddi. Flynyddoedd lawer yn ôl deellir iddi fod yn fan cyfarfod i gariadon lleol. Roedd y fferm yn ei defnyddio fel lloches i’r mochyn a bellach mae hwyaid y perchennog presennol yn clwydo ac yn deor yn y canghennau.