Ddoe (dydd Sadwrn, Mai 18) fe fu ymgyrchwyr ledled Cymru yn dechrau ar haf o ddathlu cyfraniad Ewrop i’r wlad trwy godi safon traethau a dyfroedd ymdrochi.

Mae Cymru Dros Ewrop eisoes wedi comisiynu artist traethau ar Draeth y Gogledd yn Ninbych-y-pysgod i dynnu sylw at y fenter ar y cyfryngau cymdeithasol.

Fe fu ymgyrchwyr hefyd yn ymgynnull ar y promenâd ger y traeth yn Abertawe i ddathlu Ewrop trwy gelfyddyd traeth, canu a llefarwyr.

Y cefndir 

Yn y 1970au a’r 1980au, cyfeiriodd grwpiau amgylcheddol ac eraill yn aml at y Deyrnas Unedig fel “dyn budr Ewrop”, yn rhannol oherwydd cyflwr llygredig ei thraethau.

Ers hynny, mae gwelliannau sylweddol wedi cael eu gwneud, ac yn 2016, cafodd dros 95% o ddyfroedd ymdrochi gwledydd Prydain (609 o’r 631 o safleoedd) eu nodi’n ddigonol o leiaf neu o ansawdd gwell o ran safonau’r Undeb Ewropeaidd.

Yng Nghymru, cafwyd mwy o lwyddiant ac yn 2017, bodlonodd 101 o’n 102 o draethau brofion amgylcheddol Ewropeaidd llym, cynnydd o  315% o’i gymharu â 1990.

Diolch i Ewrop 

“Mae traethau Abertawe’n lanach ac yn fwy diogel nag erioed – ac mae’r diolch am hynny i Ewrop,” meddai Paul Willner, cadeirydd Abertawe dros Ewrop. “Cyfraith Ewropeaidd wnaeth i San Steffan unioni pethau.

“Mae gan draethau oedd wedi eu llygru â charthion crai ugain mlynedd yn ôl bellach faneri glas. Mae’n enghraifft wych o’r ffordd y mae’r Undeb Ewropeaidd yn rhoi buddion gwirioneddol i Abertawe a’i phobol.”