Dydi’r ffaith fod y trafodaethau Brexit rhwng llywodraeth San Steffan a’r blaid Lafur wedi torri i lawr, yn synnu dim ar Alan Johnson, cyn-Ysgrifennydd Cartref llywodraeth San Steffan.

Mae barn Jeremy Corbyn ar y rhan fwya’ o’i bolisïau wedi aros yn ddigyfnewid ers yr oedd yn ymgyrchydd 15 oed, meddai Alan Johnson yn chwareus wrth gynulleidfa yng ngŵyl lyfrau yn Wrecsam.

“Dydi Jeremy ddim wedi newid ei feddwl ar ddim byd ers yr oedd o’n bymtheg oed,” meddai Alan Johnson ar ymweliad i hyrwyddo ei gyfrol ddiweddaraf.

Mae’r gwleidydd Llafur a fu’n rhan o lywodraethau Tony Blair a Gordon Brown, a’r cyn-gynrychiolydd undeb, yn dweud na fu digon o drafod yn ddigon cynnar yn y broses Brexit – ac mai bai Theresa May ydi hynny’n llwyr.

“Ar ôl bron i dair y blynedd o drafod, heb ddim llwyddiant, mae hi braidd yn hwyr troi at y pleidiau eraill pan mae’r dedlein wedi pasio,” meddai, cyn y daeth y cyhoeddiad swyddogol ddydd Gwener diwethaf (Mai 17) fod y chwech wythnos o drafodaethau drosodd.

Mae Alan Johnson o blaid aros oddi fewn i’r Undeb Ewropeaidd.