Dywed Heddlu Dyfed Powys eu bod nhw’n bryderus am lanc 18 oed sydd ar goll o ardal Llanelli.

Caiff Charlie Carpenter ei ddisgrifio fel 6 throedfedd o daldra, main, gyda gwallt du a thlysau yn ei drwyn a’i glustiau. Maen nhw’n meddwl ei fod yn gwisgo hwdi.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101 a nodi cyfeirnod 416.