Mae preswylwyr wedi gorfod ffoi o’u cartrefi ar ôl i dân mawr gydio ar Fynydd Cilfái yn Abertawe.

Yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru fe gafodd chwech o dai yn Deep Glade Close, yn St Thomas, eu gwagio neithiwr (Dydd Iau, Mai 16) ychydig cyn hanner nos.

Mae mwy na 45 o ddynion tân o wyth criw tân gwahanol wedi bod yn diffodd y fflamau wnaeth gydio am tua 7.30 neithiwr.

Erbyn hyn mae’r tân dal i losgi ond o dan reolaeth, ac mae preswylwyr wedi dychwelyd i’w cartrefi.

Cafodd criwiau tân o Ganol Abertawe, Gorllewin Abertawe, Gorseinon, Pontarddulais, Castell-nedd, Morriston, Llanelli a Tymbl eu galw.