Bydd rhai o archifau a llyfrgelloedd Cymru yn derbyn £1m er mwyn datblygu a gwella eu cyfleusterau a’u gwasanaethau.

Ymhlith y llyfrgelloedd a fydd yn elwa o’r ‘Raglen Grant Cyfalaf Trawsnewid’ mae Llyfrgell Pwllheli, Llyfrgell Sgiwen (ger Castell-nedd), Llyfrgell Glynrhedynog (yn y Rhondda) a Llyfrgell y Fflint.

Bydd yr arian gan Lywodraeth Cymru hefyd yn cael ei fuddsoddi yng nghanolfan gymunedol Rhydypennau a chanolfan les cymunedol yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd.

Daeth cyhoeddiad am y cyllid gan Dafydd Elis-Thomas, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, wrth iddo annerch cynhadledd.

Roedd gwahoddiad wedi bod am geisiadau ar gyfer yr arian,

Bydd Gardd Reilffordd Maenordy Scolton (ger Hwlffordd) ac Archifau Ceredigion hefyd yn derbyn cyfran o’r arian.