Mae stondinwyr sydd wedi archebu lle yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni wedi cael gwybod bod yna “ddigon o le” ar eu cyfer ar y Maes newydd.

Yn dilyn trafferthion i gael yswiriant ar y maes gwreiddiol ar gyrion tref Llanrwst, mae’r trefnwyr wedi gorfod symud i safle newydd ond mae’r stondinwyr wedi cae l llythyr bellach yn egluro nad oes problem lle.

Fe esboniodd y trefnwyr hefyd fod siâp gwahanol y Maes newydd yn golygu y bydd yn rhaid i stondinwyr ailddewis eu lle.

Sicrwydd o le

“Mae’r holl stondinwyr sydd eisoes wedi cadarnhau lle wedi derbyn y wybodaeth nos Lun pan aeth y cyhoeddiad allan i bawb,” meddai llefarydd ar ran yr Eisteddfod Genedlaethol.

“Maen nhw hefyd wedi cael gwybod, gan fod siâp y Maes yn wahanol wrth reswm, e bod i gyd am gael y cyfle i ddewis eu lleoliad o’r newydd.

“Mae tua’r un faint o stondinau ac hefyd cytiau bach pren yn ychwanegol i beth oedd yn Sir Fôn, felly mae digon o le i bawb sydd wedi archebu.”

Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal yn Nyffryn Conwy rhwng Awst 3 a 10.