Mae Plaid Cymru’n defnyddio canlyniad arolwg barn newydd i alw ar wrthwynebwyr Brexit o bleidiau eraill i bleidleisio iddyn nhw yn yr Etholiadau Ewropeaidd.

Mae’r blaid yn honni bod yr arolwg yn dangos mai hi yw’r unig un o’r pleidiau gwrth-Brexit sydd â digon o gefnogaeth i ennill un o’r pedair sedd sydd ar gael yng Nghymru.

Mae’n dweud hefyd ei bod yn agos iawn at guro’r Blaid Lafur … ond plaid Brexit newydd Nigel Farage sydd ar y blaen. Ac fe fyddai’r Ceidwadwyr yn cael eu gadael heb sedd o gwbl.

YouGov

Er mai arolwg wedi ei gomisiynu gan Blaid Cymru ei hun yw hwn, fe gafodd ei gynnal gan y cwmni uchel-ei-barch YouGov.

Mae hefyd yn dangos bod y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Gwyrddion yn ennill tir – +4% a +3% o gymharu ag Arolwg Baromedr diweddara’ Cymru.

Dim ond 1% oedd cynnydd Plaid Cymru, sy’n awgrymu bod angen iddi hi wneud mwy os yw am gael ei gweld yn brif blaid ‘Aros’ Cymru.

 

“Yr unig blaid Aros all ennill sedd”

“Mae’r pôl hwn yn ei wneud yn gwbl glir mai Plaid Cymru yw’r unig blaid sy’n ffafrio Aros a all ennill yng Nghymru,” meddai arweinydd Plaid Cymru, Adam Price. “Ni yw’r blaid sydd ar ei hennill a ni yw’r unig opsiwn posib i gefnogwyr Aros.

“Os bydd cefnogwyr y Democratiaid Rhyddfrydol, y Gwyrddion, a Change UK yn cefnogi Plaid Cymru, gallai Aros ennill dwy sedd, a gwthio’r Brexit party i’r ail safle.”

Fe apeliodd hefyd am bleidlais cefnogwyr Llafur sydd wedi “dadrithio” yn agwedd y blaid honno at Brexit.

Os yw’r pôl yn gywir, mi fyddai’r Ceidwadwyr i lawr yn y chweched safle ac UKIP yn ola’.

Yr arolwg

Yr arolwg – y ffigurau yn y cromfachau’n dangos y newid ers yr Arolwg Baromedr diwetha’ yng Nghymru.

Brexit Party – 33%

Llafur – 18%

Plaid Cymru – 16%

Dem Rhydd – 10%

Gwyrddion – 8%

Ceidwadwyr – 7%

Change UK – 4%

UKIP – 3%