Fe fydd dad-breifateiddipo’r gwasanaethau yn digwydd ynghynt yng Nghymru nag yn Lloegr.

Wrth i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyhoeddi tro bedol i ddod â’r rhan fwya’ o’r gwasanaeth yn ôl i ddwylo cyhoeddus, fe gyhoeddon nhw bod disgwyl i’r broses yng Nghymru orffen erbyn diwedd eleni.

Fe fydd yn cymryd hyd at wanwyn 2021 yn Lloegr.

Mae cyhoeddiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cael ei weld yn gyfaddefiad fod y preifateiddio, a ddigwyddodd dan adain y gweinidog cabinet Chris Grayling bum mlynedd yn ôl, wedi bod yn fethiant.

Fe ddywedodd prif arolygydd y gwasanaeth prawf, Glenys Stacey, ei bod hi “wrth ei bodd” gyda’r newyddion y bydd y rhan fwya’ o’r gwasanaethau dan adain y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol.

Problemau

O dan ddiwygiadau Chris Grayling, roedd achosion pawb ond y troseddwyr mwya’ difrifol wedi cael eu rhoi yn nwylo cwmnïau preifat ac fe ddywedodd pwyllgor o aelodau seneddol bod y Llywodraeth yn cymryd risgiau “annerbyniol”.

Yn ystod yr wythnosau diwetha’, fe ddaeth straeon mai’r unig arolygaeth ar rai cyn-garcharorion oedd un alwad ffôn bob chwech wythnos.

Fe fydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dal i glustnodi hyd at £280 miliwn y flwyddyn ar gyfer gwaith gydag asiantaethau a chwmnïau preifat.