Fe fydd Aelod Seneddol Maldwyn, Glyn Davies, yn ymddeol adeg yr Etholiad Cyffredinol nesaf yn 75 oed.

Mae’r Ceidwadwr wedi cynrychioli Sir Drefaldwyn yn San Steffan ers 2010 a, chyn hynny, roedd yn Aelod Cynulliad dros Ganol a Gorllewin Cymru o 1999 i 2007.

Cyn ei yrfa mewn gwleidyddiaeth, ffermio oedd Glyn Davies ac fe dreuliodd gyfnod yn Gadeirydd Bwrdd Datblygu Cymru Wledig a hefyd yn Aelod o Awdurdod Datblygu Cymru a Bwrdd Croeso Cymru.

“Dyn lleol”

Fe fydd swyddogion Cymdeithas Geidwadol Sir Drefaldwyn nawr yn dechrau proses ddethol ffurfiol er mwyn dewis ymgeisydd i gymryd lle’r Aelod Seneddol.

Yna bydd Aelodau Cymdeithas Geidwadol Sir Drefaldwyn yn pleidleisio ar restr fer o ymgeiswyr.

“Mae’n bleser mawr cael Glyn Davies fel ein Haelod Seneddol ers mis Mai 2010, a thrwy ddim llai na tri Etholiad Cyffredinol,” meddai Cymdeithas Geidwadol Sir Drefaldwyn.

“Mae Glyn yn ddyn lleol go iawn – wedi ei eni, ei addysgu ac wedi byw ei fywyd cyfan yma yn Sir Drefaldwyn – fu neb erioed yn fwy ymroddedig i’w Aelodau a’i etholwyr yma.”

Yngyrchu

Yn ystod y blynyddoedd diwetha’, roedd Glyn Davies wedi bod yn amlwg yn ymgyrchu i sicrhau dyfodol Gwasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys yn Ysbyty Amwythig, sy’n trin llawer o gleifion o’i etholaeth.

Mae hefyd wedi gorfod delio â gwrthdaro tros gynlluniau i godi ffermydd gwynt, gan fod yn rhan o frwydr i atal cynnydd mewn tyrbinau a rhwystro codi peilonau ar draws y Canolbarth i gario’r trydan.

Anaml y mae wedi gwrthryfela yn erbyn y chwip Doriaidd yn Nhŷ’r Cyffredin ond roedd wedi pleidleisio yn erbyn cael ymchwiliad i Ryfel Irac ac, ar y cyfan, wedi pleidleisio yn erbyn priodasau un rhyw.

Y sedd

Roedd gan Glyn Davies fwyafrif o fwy na 9,000 a mwy na 26% yn yr Etholiad Cyffredinol diwetha’ ond fe fydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn gobeithio y gallen nhw ei herio – roedd wedi ei chipio oddi arnyn nhw a’r AS lliwgar Lembit Opik yn 2010 gyda mwyafrif o ychydig tros 1,000.