Mae Cyngor Ynys Môn wedi cymeradwyo cymorth ariannol i ddod a gemau’r Ynysoedd yno yn 2025.

Yn y cyfarfod llawn ddoe, fe benderfynodd y Cyngor i gefnogi cais Pwyllgor Bid Ynys Môn i warantu’r gost o gynnal y digwyddiad chwaraeon rhyngwladol.

Tynnodd y cynghorwyr sylw at y manteision economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol a fyddai’n dod yn sgil y Gemau.

Er hynny, mae cost y Gemau yn oddeutu £1.4m ar hyn o bryd, ac felly mae angen i Bwyllgor Bid Ynys Môn gyflawni’r targedau incwm angenrheidiol, meddai’r cynghorwyr.

Athletwyr o bob cwr

Cafodd y Gemau cyntaf eu cynnal yn Ynys Manaw yn 1985, ac fel aelod o Gymdeithas Gemau’r Ynysoedd roedd Ynys Môn yn un o’r trefnwyr.

Maen nhw’n cael eu cynnal unwaith bob dwy flynedd gyda miloedd o athletwyr o ynysoedd ar draws y byd – o Sgandinafia i ynysoedd Mor y Canoldir – yn dod at ei gilydd i gystadlu.

“Byddai cynnal digwyddiad mor arbennig yn cynnig buddion sylweddol am flynyddoedd i ddod,” meddai Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Llinos Medi.

“Bydd yna amodau wrth gwrs i isafu unrhyw gostau posib i’r Cyngor. Bydd hyn yn cynnwys cynrychiolaeth ar bwyllgor y bid wrth symud ymlaen er mwyn sicrhau llywodraethu cywir, rheolaeth ariannol a bod gwaith codi arian yn mynd rhagddo.”

Bydd Cymdeithas Ryngwladol Gemau’r Ynysoedd yn penderfynu os caiff Ynys Môn gynnal Gemau 2025 yn ei Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar ynys Guernsey ym mis Gorffennaf 2020.