Mae ymgyrchwyr iaith wedi croesawu’r newyddion bod Cyngor Sir Gaerfyrddin yn ystyried newid cyfrwng iaith pump o ysgolion cynradd y sir.

Bydd y cynigion yn cael eu cyflwyno mewn ymgynghoriad cyhoeddus rhwng Mai 20 a Mehefin 30.

O dan y cynlluniau, bydd cyfrwng iaith y Cyfnod Sylfaen yn Ysgol y Ddwylan, Castellnewydd Emlyn; Ysgol Griffith Jones, San Clêr; Ysgol Llangynnwr ac Ysgol Llys Hywel, Hendy-Gwyn ar Dâf, yn cael ei newid i’r Gymraeg.

Bydd Ysgol Rhys Pritchard yn Llanymddyfri wedyn yn newid o fod yn ysgol ddwy ffrwd i ysgol cyfrwng Cymraeg.

“Symud ymlaen”

Yn ôl y Cynghorydd Glynog Davies, yr aelod o’r bwrdd gweithredol sy’n gyfrifol am addysg a gwasanaethau plant, mae’r cyfan yn cyd-fynd â bwriad Llywodraeth Cymru i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

“Rydym eisiau symud ymlaen gyda’n gilydd, ac mae hynny’n hanfodol ac yn bwysig i lwyddiant y cynllun hwn,” meddai.

“Mae 2050 yn teimlo’n bell iawn i ffwrdd ond mae’n rhaid i’r broses ddechrau nawr – ni allwn wastraffu amser.”

Mae Bethan Williams o Gymdeithas yr Iaith yn hyderus y bydd yna “gefnogaeth eang” i’r cynllun.

“Rydyn ni’n llongyfarch y cyngor am ddechrau ymgynghoriad er mwyn gosod pump o ysgolion y sir ar lwybr tuag at addysg Gymraeg, a hyderwn y bydd cefnogaeth eang i hynny.”