Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cyhoeddi enw’r ddynes  a fu farw yng Ngheredigion yr wythnos ddiwethaf.

Daethpwyd o hyd i gorff Mavis Long, 77, mewn tŷ yn ardal Pennant ger Aberaeron ddydd Gwener.

Cafodd dyn, 80 oed, ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, ond mae bellach wedi ei ryddhau ar fechnïaeth tra bo’r heddlu yn parhau â’u hymholiadau.

Mewn datganiad, dywed teulu Mavis Long: “Roedd hwn yn ddigwyddiad trasig lle y gwnaethon ni golli Mavis, a fydd yn cael ei cholli’n fawr,” meddai’r datganiad.

“Hoffem ddiolch i’r gymuned leol am eu geiriau caredig a’u cefnogaeth yn ystod y cyfnod anodd hwn.

“Dymunwn gael amser nawr i alaru ac rydyn ni’n gofyn am lonydd i wneud hynny.”