Mae arweinydd y Brexit Party, Nigel Farage, ynghyd a’r Aelodau Cynulliad Mark Reckless a Caroline Jones wedi cyhoeddi eu bod yn bwriadu creu grŵp y blaid ym Mae Caerdydd.

Fe gyflwynodd Nigel Farage cyn aelod Cynulliad y Ceidwadwyr a UKIP, Mark Reckless fel yr arweinydd ar risiau’r Cynulliad heddiw.

Mae’r aelodau eraill yn cynnwys Mandy Jones, Caroline Jones a David Rowlands o UKIP.

“Rydym yn gobeithio sefydlu grŵp wleidyddol y Brexit Party ar unwaith,” dywed llythyr gan y pedwar Aelod Cynulliad.

“Rydym eisiau Mark Reckless fel arweinydd y Brexit Party Group, Caroline Jones fel rheolwr busnes a David Rowlands i aros fel comisiynydd y Cynulliad.”

“Cefnogi’r Brexit Party”

“Mae cefnogwyr yr ymgyrch gadael yr Undeb Ewropeaidd yn dod yn ôl at ei gilydd unwaith eto,” meddai Nigel Farage wrth gyhoeddi arweinydd ei grŵp yng Nghymru, Mark Reckless.

Daw’r cyhoeddiad ganddo oriau cyn iddo fynychu rali ym Merthyr Tudful heno fel rhan o ymgyrch ei blaid newydd.

“Mae Theresa May wedi addo dros ganwaith y bydd gwledydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar Fawrth 29 gyda neu heb gytundeb,” meddai Mark Reckless.

“Mae hi wedi torri’r addewid yna, mae democratiaeth yn cael ei wrthod”

“O heddiw, fe fydd grŵp Brexit Party y Cynulliad yn cefnogi’r Brexit Party o dan arweiniad Nigel Farage ym mhopeth maen nhw’n gwneud.”

Eu bwriad yw i “amddiffyn democratiaeth ac i sicrhau bod Brexit yn cael ei gyflawni,” meddai.

Be nesaf?

Fe fydd y llywydd nawr yn ystyried y cais gan y Brexit Party.

Mae grwp yn y Cynulliad fel arfer yn cynnwys Aelodau Cynulliad o grwp y blaid maen nhw yn cynrychioli.

Er mwyn sefydlu un, mae’n rhaid cael o leiaf tri Aelod Cynulliad. Ar hyn o bryd mae pedwar grŵp ym Mae Caerdydd – Llafur, y Ceidwadwyr, Plaid Cymru ac UKIP.

Os yw grŵp y Brexit Party yn cael ei sefydlu, mae’n debygol y bydd UKIP yn diflannu yno.