Mae’r Aelod Cynulliad, Mark Reckless, wedi cyhoeddi ei fwriad i adael grŵp y Ceidwadwyr Cymreig ym Mae Caerdydd.

Daw ei ymadawiad yn dilyn adroddiadau bod yna fwriad i ffurfio grŵp newydd yn y Cynulliad o dan faner y Blaid Brexit, a gafodd ei sefydlu gyn-arweinydd UKIP, Nigel Farage.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywed yr aelod tros Dde-Ddwyrain Cymru ei fod yn gadael yn dilyn methiant Llywodraeth Prydain i sicrhau Brexit.

“Dw i wedi penderfynu gadael Grŵp y Cynulliad gan fod Llywodraeth Geidwadol Prydain wedi torri ei haddewid i weithredu Brexit,” meddai Mark Reckless.

“Cyfraniad gwerthfawr”

Mae Mark Reckless wedi bod yn Aelod Cynulliad ers 2016, a chychwynnodd ei gyfnod ym Mae Caerdydd ar ôl cael ei ethol fel aelod o grŵp UKIP. Roedd wedi ymuno â’r blaid honno ar ôl iddo ymddiswyddo o fod yn AS Torïaidd yn San Steffan.

Wedyn yn 2017 fe benderfynodd ymuno â grŵp y Ceidwadwyr Cymreig, er na wnaeth ailymaelodi â’r Blaid Geidwadol.

Bellach, mae ar ei ffordd i fod yr AC cyntaf i eistedd mewn tri grwp gwleidyddol gwahanol yn y Cynulliad.

Wrth ymateb i’w ymadawiad, dywed arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies, fod Mark Reckless wedi gwneud “cyfraniad gwerthfawr” i’r grŵp yn ystod y ddwy flynedd diwethaf.

“Dw i’n gwerthfawrogi bod yna farn bendant ar Brexit ond mae ein hymrwymiad yn glir – mae angen i Gymru a gweddill gwledydd Prydain adael yr Undeb Ewropeaidd,” meddai.