Mae Heddlu De Cymru wedi enwi’r ddynes, 44, a fu farw mewn gwrthdrawiad beic modur ym Mhort Talbot ddoe (dydd Sul, Mai 12).

Roedd Jacqueline Coyne Poole yn teithio ar gefn beic modur Yamaha pan fu mewn damwain ar Ffordd yr Harbwr am tua 4.15yp.

Mewn datganiad, dywed ei theulu ei bod hi’n “fam, cymar a merch arbennig”.

“Bydd Jackie yn cael ei cholli’n fawr nid yn unig gan ei theulu ond gan y nifer o ffrindiau y gwnaeth hi’n rhwydd, a hynny oherwydd ei natur cyfeillgar, cynnes a charedig,” meddai’r datganiad.

“Mae llawer o bobol yn mynd i hiraethu amdani. Fe adawodd hi ei hôl yn ystod blynyddoedd o weithio yn y sector gofal, wrth ofalu am bobol hŷn.

“Ac yn fwy diweddar yn y byd masnach, fe wnaeth hi fwynhau cwrdd â chwsmeriaid hen a newydd o ddydd i ddydd.”

Mae Heddlu De Cymru yn apelio am dystion i’r digwyddiad ddoe.