Mae ymgyrchwyr iaith wedi mynegi eu siom wrth i ymchwil ddangos mai dim ond un awdurdod lleol yng Nghymru sydd wedi darparu prentisiaethau cyfrwng Cymraeg yn ystod y pedair blynedd diwethaf.

Mae ceisiadau rhyddid gwybodaeth gan Gymdeithas yr Iaith hefyd yn datgelu nad oedd yr un Awdurdod Heddlu wedi cyflogi prentis cyfrwng Cymraeg.

Mae Bwrdd Iechyd Bae Abertawe – yr unig Fwrdd Iechyd i ymateb i gais am wybodaeth – yn dangos mai dim ond prentisiaid drwy gyfrwng y Saesneg sydd ganddyn nhw.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw am glustnodi £10m o gyllideb prentisiaethau Llywodraeth Cymru i’r Coleg Cymraeg er mwyn sicrhau bod yna “lawer mwy” o brentisiaethau ar gael yn Gymraeg.

Y ffeithiau

Yn ôl ymchwil Cymdeithas yr Iaith, yr unig awdurdod lleol sydd wedi cyflogi prentisiaid drwy gynllun cyfrwng Cymraeg yw Cyngor Rhondda Cynon Taf.

Dywedodd 13 cyngor, gan gynnwys Cyngor Sir Ceredigion, Wrecsam, Torfaen a Chastell-nedd Port Talbot, nad oedd yr un prentis wedi astudio drwy’r Gymraeg yn ystod y pedair blynedd ddiwethaf.

Yng Ngwynedd, dywed y cyngor eu bod nhw wedi cyflogi pum prentis ers 2015/16, gydag un wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg a phedwar arall yn ddwyieithog.

Yn Sir Gaerfyrddin wedyn, cafodd 188 o brentisiaid eu cyflogi gan y cyngor yn ystod y pedair blynedd ddiwethaf, gyda dim ond un yn astudio’n ddwyieithog a’r gweddill yn astudio yn Saesneg yn unig.

Roedd gweddill yr 20 cyngor y gwnaed cais am ryddid gwybodaeth wedi ymateb drwy ddweud nad oedd ganddyn nhw wybodaeth.

Rhagor o arian

“Ers blynyddoedd bellach, cyfran eithriadol o fach o brentisiaethau sy’n cael eu cynnal drwy’r Gymraeg,” meddai Mabli Siriol o Gymdeithas yr Iaith.

“Mae’r penderfyniad clodwiw i ymestyn cyfrifoldebau’r Coleg Cymraeg i’r maes yma’n cynnig cyfle pwysig i wneud gwir wahaniaeth yn hyn o beth.

“Ond er mwyn taclo’r perfformiad cwbl annerbyniol presennol, galwn ar y Llywodraeth i glustnodi £10 miliwn o bunnau allan o’r gyllideb prentisiaethau o £111.51 miliwn i fod o dan reolaeth y Coleg Cymraeg er mwyn dechrau gweddnewid y sefyllfa.

“Ni fyddai’r polisi yma’n costio’r un geiniog ychwanegol i’r Llywodraeth – mater o drosglwyddo arian o’r gyllideb bresennol i’r Coleg Cymraeg fyddai e.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Rydym yn cydnabod pwysigrwydd darpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn addysg bellach a phrentisiaethau, ac mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi cyhoeddi’r Cynllun Gweithredu Addysg Bellach a Phrentisiaethau Cyfrwng Cymraeg a lansiwyd gan y Gweinidog dros Addysg ym mis Rhagfyr,” meddai llefarydd.

“Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â’r Coleg i fwrw ymlaen â’r camau gweithredu, a fydd yn helpu i gryfhau’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ac yn helpu i wireddu ein gweledigaeth ar gyfer y Gymraeg, fel nodir yn Gymraeg 2050.”