Mae Heddlu De Cymru yn apelio am dystion ar ôl i ddynes farw mewn gwrthdrawiad beic modur ym Mhort Talbot ddoe (dydd Sul, Mai 12).

Roedd y ddynes, 44 oed, yn teithio ar gefn y beic modur Yamaha lliw du pan fu mewn gwrthdrawiad ar Ffordd yr Harbwr tua 4.15yp bnawn ddoe.

Mae’r heddlu’n apelio am dystion i’r digwyddiad neu a oedd wedi gweld y beic modur yn teithio ar hyd yr A4241 cyn y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw ar 101 gan nodi’r cyfeirnod 1900170002.