Mae awyren wedi plymio i’r ddaear ar ffordd A40 rhwng Rhaglan a’r Fenni, ar ôl taro gwifrau trydan.
Mae’r gwasanaethau brys wedi cadarnhau eu bod yn ymdrin â digwyddiad, ar ôl cael eu galw am 11 o’r gloch.
Mae’r ffordd ynghau i’r ddau gyfeiriad ar hyn o bryd, ond does neb wedi cael anafiadau sy’n peryglu eu bywydau.
Mae tri o bobol wedi cael eu cludo i’r ysbyty.
Dylai teithwyr osgoi’r ardal am y tro, meddai’r heddlu, ac mae oedi i deithwyr ar drenau.