Mae Cyngor Caerdydd yn cynnal diwrnod di-geir yn y brifddinas rhwng 10yb a 4yp heddiw (dydd Sul, Mai 12).

Mae adloniant wedi’i drefnu ar gyfer y diwrnod, gan gynnwys gweithgareddau chwaraeon, arddangosfeydd, cerddoriaeth fyw, dawnsio a Pharêd Beics.

Mae gwahoddiad i’r cyhoedd addurnio beic a chymryd rhan yn y parêd sy’n dechrau wrth fynedfa Parc Bute am 2.30yp.

Gall ymwelwyr fynd ar daith o amgylch y brifddinas ar gefn beic rhwng 11yb a 3yp, a hynny trwy bartneriaeth y Cyngor â banc HSBC.

Mae gwybodaeth ar wefan y cyngor ynghylch pa ffyrdd sydd ynghau yn ystod y dydd.