Mae’r orymdaith tros annibyniaeth sy’n cael ei chynnal yng Nghaerdydd heddiw “yn garreg filltir ar y llwybr i ryddid” Cymru, yn ôl Adam Price.

Fe fu arweinydd Plaid Cymru’n annerch y dorf yn yr Ais ar ddiwedd gorymdaith sydd wedi’i threfnu gan fudiad Pawb Dan Un Faner, ac sydd wedi’i mynychu gan amryw grwpiau o fewn y mudiad annibyniaeth.

Roedd disgwyl ychydig o gannoedd o bobol yn y brifddinas, ond mae’n ymddangos bod ychydig filoedd yn bresennol.

‘Credu propaganda’

Yn ei araith, dywedodd Adam Price fod Cymru’n dechrau gweld y tu hwnt i bropaganda’r wasg Brydeinig sy’n dweud o hyd pam na all Cymru fod yn wlad annibynnol.

“Dyna i gyd oedden ni’n clywed o’r ysgol ymlaen, bo ni’n rhy dlawd, rhy fach a bo ni’n rhy dwp i fod yn wlad rydd fel unrhyw wlad arall, a dechrau ei gredu fe.

“Ac wrth gwrs, beth sy’n digwydd nawr, ry’n ni wedi cymryd y cam bras mwya’ allwn ni.

“Dyn ni ddim yn credu eu celwyddau nhw, ry’n ni’n dechrau credu ynon ni ein hunain.”

‘Y cyfoeth a fu’

Wrth gyfeirio at Barc Cathays, dywedodd Adam Price fod yna “gofgolofn i’r cyfoeth a lifodd unwaith drwy wythiennau’r ddinas hon”.

“Roedden ni’n genedl gyfoethog, yr oedd ei phobol wedi’u condemnio i fyw mewn tlodi.

“Byddai unrhyw beth o werth a allai gael ei balu o’r ddaear yn cael ei balu yng Nghymru.

“Ond ac eithrio’r ychydig filltiroedd sgwâr o falchder sifig yn y ddinas, chafodd yr elw ddim ei ailfuddsoddi yn ein gwlad. Beth sydd gennym i’w ddangos ond y tomenni glo a’r sêr?”

‘Popeth yn wahanol, ond does dim byd wedi newid’

Wrth edrych tua’r dyfodol, dywedodd Adam Price fod “popeth yn wahanol, ond does dim byd wedi newid” yng Nghymru yn yr oes sydd ohoni.

“Dydy Cymry ddim yn wlad dlawd. Peidiwch â chredu eu celwyddau nhw.

“Roedden ni’n bwerdy ynni ganrif yn ôl, a dyna ydyn ni unwaith eto heddiw, y pumed allforiwr trydan mwyaf yn y byd.

“Efallai ein bod nhw’n ceisio dwyn ein dŵr ond rydyn ni’n ei gymryd yn ei ôl.”

‘Pobol dalentog’

Wrth droi ei sylw at y Cymry, dywedodd Adam Price ein bod yn “bobol dalentog” ond yn “byw mewn tlodi”.

“Ni yw’r wlad sydd â’r gyfradd uchaf o garcharorion yng ngorllewin Ewrop.

“Mae un o bob 74 o bobol yn y ddinas hon yn ddigartref.

“Dyna’r waddol i ni o du’r Wladwriaeth Brydeinig, a dyna sy’n rhaid i ni ei wrthod.”

Dywedodd fod pobol, ar gyfartaledd, yn marw ddeng mlynedd yn iau yn Nhre-biwt nag yn Llundain.

‘Newyddion da’

Ond fe ddywedodd fod yna “newyddion da” y dylid ei “adrodd yn groch”.

“Does dim byd sy’n anochel am gyflwr ein pobol,” meddai.

“Gallwn ni drechu tlodi yng Nghymru.”

Ond er mwyn gwneud hynny, meddai, rhaid i Gymru fod yn gyfrifol am ei thynged ei hun.

“Dim ond wrth dderbyn na ddaw’r atebion i’n problemau o brifddinas gwlad arall 150 milltir i ffwrdd y gwnawn ni hynny.”

‘Mwy na dim ond gorymdaith’

Dywedodd hefyd fod yr orymdaith yn y brifddinas “yn fwy na dim ond gorymdaith”.

“Mae’n garreg filltir ar y llwybr i ryddid.

“Rydym yn genedl a gafodd ei bychanu ers cyhyd ac a ddechreuodd gredu.

“Mae cymylau israddoldeb yn dechrau anweddu yn awyr ein huchelgais.

“Mae Cymru’n deffro, yn codi, yn gwrthod statws eilradd i hawlio ein lle cyfartal ymhlith cenhedloedd Ewrop a gweddill y byd.

“Pan fydd hanes annibyniaeth y genedl wych hon wedi cael ei ysgrifennu yn y dyfodol agos iawn, y genhedlaeth hon fydd yn gallu dweud ein bod ni wedi cyrraedd y fan hon am ein bod ni wedi gorymdeithio’n unedig yn ein nod, ein hangerdd, pawb dan un faner.

“Yn ein calonnau ac yn ein meddyliau, mae Cymru eisoes yn rhydd.”