Mae Heddlu’r Gogledd wedi cadarnhau bod dyn 74 a gafodd ei daro gan fwa croes yng Nghaergybi ar Ddydd Gwener y Groglith wedi marw.

Mae’r heddlu’n ymchwilio i’r digwyddiad ar ôl dweud i saeth ddod o fewn trwch blewyn i daro Gerald Corrigan yn ei galon.

Roedd Gerald Corrigan, cyn-ddarlithydd ffotograffeg a fideo sy’n hanu o Sir Gaerhirfryn ond sydd wedi ymgartrefu yn y gogledd ers ugain mlynedd, ar do ei gartref pan gafodd ei daro yn ei frest, ac fe fu mewn cyflwr difrifol ac yn anymwybodol yn yr ysbyty yn Stoke.

Teithiodd y saeth i’w frest a’i fraich.

Mae’r heddlu’n apelio ar y sawl sy’n gyfrifol i fynd atyn nhw a rhoi gwybodaeth am y digwyddiad.

Un o ddamcaniaethau’r heddlu yw mai heliwr sy’n gyfrifol.